Policies
Our Policies
Translations coming soon...
Caiff plant fynediad i’r ysgol yn rhan amser o’r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed. Gall plant fynychu’r ysgol yn llawn amser o’r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed. Rhaid derbyn ceisiadau am fynediad cyn Chwefror y 1af cyn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd a gall rhieni sy’n ystyried anfon eu plant i’r ysgol, gysylltu â’r Pennaeth i drefnu ymweliad meithrin a derbyn a thrafodaeth i ragbaratoi. Mae Ysgol Manod yn ysgol boblogaidd. Cynghorir cyflwyno cais yn gynnar. Gwneir trefniadau i’r plant fynychu’r ysgol am brynhawn yn ystod tymor yr Haf a chaiff rhieni wahoddiad i fynychu cyfarfod cyflwyniadol gydag aelodau o’r staff. Rhoddir copi i rieni o’r llawlyfr ‘Gwybodaeth i Rieni’ ynghyd â dogfennaeth ar gyfer cofnodi.
Enw’r aelod staff gyda chyfrifoldeb am bolisi ACRh: Mr D Williams
Enw’r arweinydd ACRh yr ysgol: Mr D Williams
Enw’r Llywodraethwr gyda chyfrifoldeb am ACRh: Mr A Jones
Dyddiad mabwysiadu’r polisi ACRh gan y Corff Llywodraethol: Tymor yr Hydref 2022
Mae’r polisi hwn yn cael ei adolygu pob dwy flynedd
Dyddiad adolygiad nesaf: Tymor yr Hydref 2024
Datganiad gan y Corff Llywodraethol
Mae’r corff llywodraethol Ysgol Manod wedi mabwysiadu’r polisi hwn yn Nhymor yr Hydref 2022. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu mewn dwy flynedd er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda chanllawiau a rheoliadau Llywodraeth Cymru.
Wrth fabwysiadu’r polisi hwn, mae corff llywodraethol Ysgol Manod yn cydnabod y cyfrifoldeb i sicrhau bod y polisi yn cael ei weithredu yn effeithiol, bod ACRh gydag adnoddau digonol ac yn cael ei gyflwyno yn draws gwricwlaidd mewn dull ysgol gyfan a bod yr ysgol yn cyflawni ei rwymedigaeth gyfreithiol.
Datganiad Cyflwyniad
Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol i’w chwarae yn addysg dysgwyr ac mae’n hanfodol wrth eu cefnogi i gyflawni’r pedwar diben fel rhan o ddull gweithredu ysgol gyfan. Mae helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau, sydd i gyd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr, yn greiddiol i addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae’r cydberthnasau hyn yn hollbwysig er mwyn datblygu lles emosiynol, gwydnwch ac empathi. Mae dealltwriaeth o rywioldeb gyda phwyslais ar hawliau, iechyd,cydraddoldeb a thegwch yn grymuso dysgwyr i ddeall eu hunain, cymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau a’u hymddygiadau eu hunain a ffurfio cydberthnasau sy’n gwbl gynhwysol, gan adlewyrchu amrywiaeth a hyrwyddo parch.
Mae’r Côd ACRh, Llywodraeth Cymru 2022 yn cynnwys y gofynion mandadol. Mae’r addysgu a dysgu o fewn ein rhaglen ACRh ysgol gyfan yn cwmpasu’r elfennau mandadol a amlinellir o fewn y Cod.
Mae’r ysgol felly wedi cynllunio a datblygu rhaglen addysgu a dysgu ACRh ysgol gyfangynhwysfawr, cynhwysol, addas i ddatblygiad sydd yn cydymffurfio gyda’r Côd. Mae’r polisi hwn yn manylu ein dull ysgol gyfan ACRh. Mae ein hysgol yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd i ddeall sut mae cydberthnasau a rhywioldeb yn siapio ein bywyd a bywydau eraill. Bydd ein dysgwyr yn cael eu harfogi a’u grymuso i ofyn am gefnogaeth ar faterion sy’n gysylltiedig ag ACRh ac
eirioli ar ran eu hunain ac eraill. Bydd yr ysgol yn sicrhau bod ACRh wedi ei osod yng ngwerthoedd, hawliau a fframwaith moesol yr ysgol e.e. wrth ddangos parch i’r holl ddysgwyr, staff a’r gymuned ehangach, wrth
ddathlu gwahaniaethau, adeiladu perthnasoedd iach a cynhwysol o amrywiaeth rhywiol.
Mae’r polisi wedi ei gymeradwyo gan yr Uwch Dîm Rheoli drwy ymgynghori gyda’r staff, llywodraethwyr, rhieni a’r dysgwyr.
Mae’r polisi wedi ei ddylanwadu gan ganllawiau cyfredol:
Llywodraeth Cymru
• Canllawiau a’r Côd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
• Curriculum for Wales Guidance
• Cadw Dysgwyr yn Ddiogel
• Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae’r polisi hwn wedi ei greu wrth ystyried polisïau eraill gan gynnwys: Cyfrinachedd, Diogelu, Amddiffyn Plant a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015).
Hawl i eithrio
Mae ACRh yn ofyniad mandadol o fewn y Cwricwlwm i Gymru 2022 i bob dysgwr o oedran 3 i 16. Mae’r Côd yn nodi nad oes hawl i ddysgwyr gael eu heithrio o unrhyw ran o ACRh.
Dylunio cwricwlwm
Mae ein cwricwlwm ACRh yn cael ei gyflwyno drwy themâu traws cwricwlaidd ac wedi eigysylltu o fewn y chwe Maes Dysgu a Phrofiad fel yn briodol. Mae hyn yn caniatáu bod dysgwyr yn gwneud cysylltiad gyda beth a ddysgir yn ACRh a’r cwricwlwm ehangach, deall persbectif a dylanwadau hanesyddol, diwylliannol, daearyddol, corfforol, gwleidyddol, cymdeithasol athechnolegol.
Mae cynnwys mandadol y Côd ACRh wedi ei osod o fewn tri llinyn dysgu bras cysylltiol:
1. Cydberthnasau a hunaniaeth - Mae’r llinyn hwn yn canolbwyntio ar:
• yr amrywiaeth o gydberthnasau y mae pobl yn eu datblygu drwy gydol eu bywydau
• sut y gall ein cydberthnasau a’n rhywioldeb lywio ein hunaniaeth
• pwysigrwydd hawliau dynol wrth sicrhau cydberthnasau iach, diogel a boddhaus mewn cymdeithas gynhwysol.
2. Iechyd rhywiol a lles - mae’r llinyn hwn yn canolbwyntio ar:
• dysgu am y ffordd y mae pethau byw yn tyfu, yn atgenhedlu ac yn mynd drwy gylchred bywyd
• datblygu dealltwriaeth o’r corff dynol, gan gynnwys teimladau pobl am eu cyrff a’r ffordd y gall y teimladau hyn gael eu cynrychioli
• y materion iechyd sy’n gysylltiedig â chydberthnasau a rhywioldeb
• dealltwriaeth o’r ffordd y mae rhywioldeb ac iechyd rhywiol yn effeithio ar ein lles.
3. Grymuso, diogelwch a pharch - mae’r llinyn hwn yn canolbwyntio ar:
• hawliau dysgwyr i ddiogelwch ac amddiffyniad a rhyddid rhag niwed a gwahaniaethu
• sut a ble i gael gwybodaeth, help a chymorth
• sut i gefnogi ac eirioli dros hawliau, triniaeth deg a pharch i bawb.
Mae pob llinyn addysgu a dysgu wedi eu rhannu’n dri chyfnod datblygu bras fel a ganlyn:
• Cyfnod 1: o 3 oed
• Cyfnod 2: o 7 oed
• Cyfnod 3: o 11 oed
Mae’r cynllunio, addysgu, arfarnu a monitro rhaglen ACRh yr ysgol yn cael ei ymgymryd gan
athrawon ac arweinydd ACRh ein hysgol.
Er mwyn sicrhau bod ein cwricwlwm ACRh ysgol gyfan yn ddatblygiadol addas ar gyfer ein
dysgwyr yr ydym yn ystyried amrediad o ffactorau gan gynnwys:
• oed, gwybodaeth ac aeddfedrwydd y dysgwyr
• anghenion dysgu ychwanegol y dysgwyr
• anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a gwybyddol y dysgwyr
• ystyried gall anghenion dysgwyr o oedran tebyg amrywio
Ymgynghori gyda’r dysgwyr
Er mwyn cefnogi’r dysgwyr i wireddu’r pedwar diben o fewn y Cwricwlwm i Gymru, mae llais y dysgwr yn greiddiol i ddatblygu ein cwricwlwm ACRh
Er mwyn sicrhau bod ein cwricwlwm ACRh yn cyrraedd anghenion y dysgwyr yr ydym yn darparu cyfleoedd iddynt roi eu barn ar bolisi ACRh yr ysgol, rhaglen waith a chynnwys y gwersi wrth gynnal â gweithgareddau ymgynghori gyda dysgwyr blwyddyn bob mlynedd.
Yr ydym yn ymgynghori gyda’r dysgwyr yn barhaol ar ddiwedd gwersi, gweithgareddau a rhaglen er mwyn sicrhau addasrwydd ein darpariaeth a bod ein hadnoddau â’r asiantaethau allanol yn berthnasol, yn ddatblygiadol addas, yn gynhwysol ac yn sensitif i anghenion ein dysgwyr. Byddwn yn gweithredu ar unrhyw argymhellion ac yn diwygio yn ôl y gofyn.
Rhaglen Waith ACRh Ysgol Gyfan
Mae ein cynllun gwaith ACRh ysgol gyfan ar gael ar wefan ysgol iach. Mae’r ddogfen hon yn manylu sut yr ydym yn rheoli, trefnu ac ymgorffori ACRh ar draws ein cwricwlwm ysgol gyfan yn unol â Chamau Cynnydd y Cwricwlwm i Gymru a’r Cyfnod o fewn y Cod ACRh. Mae’r adnoddau a ddefnyddiwyd wedi eu dewis yn ôl eu haddasrwydd ac adolygir eu heffeithiolrwydd yn dilyn eu defnydd gan athrawon a’r arweinydd ACRh yr ysgol.
Amgylchedd dysgu diogel
Bydd yr ysgol yn sicrhau amgylchedd addysgol diogel ar gyfer athrawon, staff a dysgwyr drwy sefydlu a chytuno ar gytundebau/rheolau dosbarth yr ysgol. Mae’r cytundebau/rheolau dosbarth wedi eu nodi o fewn y ddogfen rhaglen waith ysgol gyfan.
Byddwn yn sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o faterion cyfrinachedd ac ni fydd unrhyw ddatgelu diogelu yn cael ei gadw ac yn cael ei rannu yn unol â phrosesau diogelu’r ysgol.
Gwasanaethau cymorth Iechyd a lles
O fewn ein darpariaeth ACRh bydd y dysgwyr yn derbyn gwybodaeth am wasanaethau cefnogi iechyd a lles a sut i gael mynediad atynt.
Ateb cwestiynau’r dysgwyr
Bydd y dysgwyr yn cael cyfleoedd i ofyn cwestiynau cyfrinachol/dienw drwy ddefnyddio’r blwch cwestiynau dienw. Rydym yn ystyried cwestiynau fel arwydd gadarnhaol bod disgyblion yn ymgysylltu â’r hyn sy’n cael ei addysgu ac yn teimlo y gallant fynegi chwilfrydedd naturiol amdanynt eu hunain, eu cyrff a’u perthnasoedd ag eraill. Bydd y cwestiynau yn cael eu hateb yn sensitif ac mewn modd addas ddatblygiad y dysgwyr.
Ni fydd disgwyl i aelodau o staff ateb bob cwestiwn os nad ydynt yn teimlo eu bod yn addas.
Ni fydd disgwyl iddynt ateb unrhyw gwestiwn personol am eu hunain ac ni fyddant yn gofyn
cwestiwn uniongyrchol personol a all wneud i’r naill a’r llall deimlo’n fregus.
Gweithio gydag asiantaethau allanol
Er mwyn ehangu a chyfoethogi ein darpariaeth ACRh, yn achlysurol bydd yr addysgu yn cael ei gefnogi gan asiantaethau allanol e.e. nyrs ysgol, gweithwyr iechyd proffesiynol, NSPCC, Hafan Cymru ayyb.
Bydd yr asiantaethau yn cael eu dewis yn ofalus a bydd arweinydd ACRh yn gwirio:
• Eu bod yn gymwys i siarad gyda phobl ifanc.
• Eu bod yn gweithio/wedi cofrestru gyda sefydliad/elusen gyfrifol.
• Bod eu cyfraniad yn cyd-fynd â nodau ac amcanion y cwricwlwm.
• Dilysrwydd eu statws Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)
• Pob adnodd a chyflwyniad a ddefnyddir ganddynt.
• Eu bod yn ymwybodol o unrhyw anghenion ychwanegol y dysgwyr
• Bod aelod o staff yr ysgol yn bresennol drwy gydol y wers/gweithgaredd/cyflwyniad.
Datblygiad proffesiynol y staff
Mae ein hysgol yn adnabod bod Dysgu Proffesiynol yn allweddol ar gyfer gofynion ACRh o safon uchel. Mae’r ysgol yn ymrwymedig i hwyluso bod pob athrawon a staff cysylltiol yn derbyn hyfforddiant addas ACRh er mwyn sicrhau bod ein rhaglen ACRh ysgol gyfan yn effeithiol, yn cynnwys elfennau traws cwricwlaidd, yn ddatblygiadol briodol ac yn bodloni anghenion ein disgyblion trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus y staff.
Bydd arweinydd ACRh yr ysgol yn cefnogi athrawon a staff cysylltiol i gael mynediad at ddysgu proffesiynol er mwyn datblygu hyder, gwybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer ACRh.
Partneriaeth gyda rhieni/gofalwyr a’r gymuned leol
Mae’r ysgol yn cydnabod bod rhieni/gofalwyr yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen ACRh. Mae’r ysgol felly yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r hyn a gyflwynir trwy lythyru rhieni. Mae’r polisi ACRh ar gael ar wefan yr ysgol
Mae croeso i rieni/gofalwyr wneud trefniadau i ymweld â’r ysgol
1. Cefndir
Ar adegau prin iawn, efallai y bydd angen cau’r ysgol fel nad yw’n bosib i unrhyw un gael mynediad o’r tu allan. Bydd hyn yn sicrhau bod disgyblion, staff ac ymwelwyr yn ddiogel mewn sefyllfaoedd lle mae perygl ar dir yr ysgol neu yng nghyffiniau’r ysgol.
Dylai gweithdrefnau Cloi mewn Argyfwng gael eu hystyried yn ymateb synhwyrol a chymesuri unrhyw ddigwyddiad allanol neu fewnol sydd â’r potensial i beri bygythiad i ddiogelwch staff a myfyrwyr yr ysgol. Nod y gweithdrefnau yw amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd dysgu, wrth sicrhau diogelwch yr holl ddisgyblion a’r staff. Gellid bod angen gweithredu gweithdrefnau Cloi mewn Argyfwng ar gyfer nifer o sefyllfaoedd, ond gallai rhai o’r rhai mwyaf nodweddiadol fod:
• yn cael gwybod am ddigwyddiad/aflonyddwch sifil yn y gymuned leol (gyda’r potensial i beri risg i staff a disgyblion yn yr ysgol);
• Rhywun heb ganiatâd ar safle’r ysgol (gyda’r potensial i beri risg i staff a disgyblion);
• Rhybudd yn cael ei dderbyn ynglŷn â risg yn lleol, o lygredd aer (pluen fwg, cwmwl nwy acati);
• Tân mawr yng nghyffiniau’r ysgol;
• Ci peryglus yn crwydro’n rhydd gerllaw’r ysgol.
2. Rhoi gwybod bod angen Cloi mewn Argyfwng
Cenir cloch goch yr ysgol a lleolir yn yr ystafell athrawon er mwyn hysbysu staff bod rhaid rhoi’r weithdrefn cloi mewn argyfwng ar waith ar unwaith. Bydd staff yn defnyddio’r ffôn mewnol i hysbysu oedolion o fewn yr Ysgol drwy ddweud ‘CLOI MEWN ARGYFWNG LLAWN/RHANNOL’ ac anfonir neges destun ac e-bost i’r holl staff ar unwaith.
3. Rheoli sefyllfa Cloi mewn Argyfwng
Caiff y sefyllfa ei rheoli gan yr uwch dîm rheoli a dylai’r holl staff barhau mewn safle Cloi mewn
Argyfwng hyd nes i aelod o’r uwch dîm rheoli ddweud fel arall wrthynt.
3.1 Rolau staff unigol:
• Dylai staff swyddfa yn cael ei chloi, galw’r heddlu ar unwaith os oes angen a hysbysu
aelodau’r uwch dîm rheoli.
• Dylai’r pennaeth/uwch dîm rheoli neu aelod o staff y Swyddfa gloi’r drysau allanol a
mynedfeydd yr ysgol.
• Dylai Staff unigol mewn ystafelloedd dosbarth gloi/cau drws (drysau) dosbarth a ffenestri.
• Y staff arlwyo i gloi pob drws i’r gegin a diffodd y goleuadau.
4. Cynllun Cloi mewn Argyfwng
4.1 RHANNOL
Hysbysiad a roddir i staff: ‘CLOI’N RHANNOL MEWN ARGYFWNG‘
Gall hyn fod o ganlyniad i ddigwyddiad/ymyrraeth sifil yn y gymuned leol sydd â’r potensial i beri risg i staff a disgyblion yn yr ysgol. Gall hefyd fod o ganlyniad i dderbyn rhybudd ynghylchperygl llygredd aer ac ati.
Gweithredu ar unwaith:
• Pob gweithgaredd awyr agored yn dod i ben ar unwaith, disgyblion a staff yn dychwelyd i mewn i’r adeilad;
• Holl staff a disgyblion i aros yn yr adeilad a chloi’r drysau allanol a ffenestri;
• Yn ddibynnol ar yr amgylchiadau mae’n bosib gellir caniatáu symud yn rhwydd o fewn yr adeilad
Mae pob sefyllfa yn wahanol. Pan fydd yr holl staff a disgyblion yn ddiogel y tu mewn, bydd uwch dîm rheoli’r Ysgol yn cynnal asesiad risg parhaus a deinamig yn seiliedig ar gyngor gan y gwasanaethau brys. Gellir cyfleu hyn i’r staff a’r disgyblion.
Mae ‘Cloi’n rhannol mewn Argyfwng’ yn fesur rhagofalus ond mae’n rhoi’r ysgol mewn sefyllfa o barodrwydd (wrth gadw rhywfaint o normalrwydd) pe bai’r sefyllfa’n gwaethygu.
Os oes problem llygredd aer, gellir cau fentiau awyr (lle bo modd) fel rhagofal ychwanegol. Bydd y gwasanaethau brys yn cynghori ynghylch y ffordd orau o weithredu mewn perthynas â’r bygythiad sy’n bodoli.
4.2 CLOI’N LLAWN MEWN ARGYFWNG
Hysbysiad a roddir i staff: CLOI’N LLAWN MEWN ARGYFWNG
Golyga hyn bod bygythiad uniongyrchol i’r ysgol ar hyn o bryd a gall fod yn gam ymlaen o sefyllfa o Gloi Rhannol mewn Argyfwng.
Gweithredu ar unwaith:
Pob disgybl i ddychwelyd i’r ystafell agosaf (ystafell ddosbarth, ystafell diwtor neu leoliad arall y cytunwyd arno e.e. chwaraeon/gwasanaeth/neuadd fwyta);
Drysau allanol wedi’u cloi. Drysau ystafell ddosbarth wedi’u cloi (lle mae aelod o staff â goriad yn bresennol); Mae ffenestri wedi’u cloi, llenni wedi’u tynnu, disgyblion yn eistedd yn dawel allan o olwg ffenestri/drysau allanol (e.e. o dan ddesg neu o amgylch cornel). Goleuadau, byrddau clyfar a sgriniau cyfrifiaduron wedi’u diffodd;
Y gofrestr wedi’i gwblhau - gall y Swyddfa gysylltu â phob dosbarth yn ei dro i gael adroddiad presenoldeb;
Bydd disgyblion neu staff nad ydynt yn y dosbarth am ryw reswm pan genir yr arwydd
argyfwng (e.e. gan eu bod yn y toiled) yn mynd i’r ystafell ddosbarth agosaf ac yn aros yno.
Dylai staff a disgyblion aros yn y fan a’r lle nes eu bod yn cael gwybod fel arall gan un ai aelod o’r UDRh neu’r gwasanaethau brys. Os yw’r larwm tân yn canu ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o Gloi mewn Argyfwng dylid gadael yr adeilad ar unwaith.
Os yw’n ymarferol, dylai staff roi gwybod i’r swyddfa flaen dros y ffôn eu bod wedi Cloi mewn Argyfwng ac os oes yna ddisgyblion heb gyrraedd y dosbarth.
Yn ystod y cyfnod Cloi mewn Argyfwng bydd y staff yn cadw llinellau cyfathrebu cytunedig ar agor ond ni fyddant yn gwneud galwadau di-angen i’r swyddfa ganolog rhag peri oedi o ran cyfathrebu pwysicach.
NI DDYLAI UNRHYW UN SYMUD O GWMPAS YR YSGOL
Staff i gefnogi plant i gadw’n dawel a llonydd.
Cyn gynted ag y bo modd ar ôl i’r cyfnod Cloi mewn Argyfwng ddod i ben dylai athrawon a disgyblion ddychwelyd i’w ystafelloedd cofrestru arferol er mwyn gallu galw’r gofrestr a rhoi gwybod i’r Swyddfa ar unwaith am unrhyw ddisgyblion na chawsant eu cyfrif.
5. Gwasanaethau Brys
Mae’n bwysig parhau i gyfathrebu â’r Gwasanaethau Brys gan mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i gynnig cyngor wrth i sefyllfa ddatblygu. Yn ddibynnol ar ddifrifoldeb y sefyllfa gall y gwasanaethau brys fod yn amgylchynu’r Ysgol ac yn atal unrhyw un ddod at y safle. Byddant yn cefnogi penderfyniad y Pennaeth ynglŷn ag amseriad cyfathrebu â rhieni.
Os bydd y sefyllfa’n parhau’n hir neu’n fwy difrifol, gall yr awdurdod lleol ddarparu cymorth dyngarol drwy sefydlu Canolfan dderbyn ar gyfer teulu a ffrindiau y tu allan i’r ardal sydd wedi’i hamgylchynu.
6. Cyfathrebu â Rhieni
Dylid rhannu gwybodaeth â rhieni ynghylch y weithdrefn Cloi mewn Argyfwng ac yn benodolynghylch y trefniadau ar gyfer cyfathrebu â’r rhieni mewn sefyllfa o’r fath, yn rheolaidd naill ai drwy gylchlythyr arferol neu drwy wefan yr ysgol.
Os digwydd sefyllfa Cloi mewn Argyfwng , dylid rhoi gwybod i’r rhieni am unrhyw ddigwyddiadneu ddatblygiad cyn gynted ag sy’n ymarferol gwneud hynny. Mae’n amlwg y bydd rhieni’n poeni ond bydd cyfleu gwybodaeth gywir yn rheolaidd yn helpu i leddfu gormod o bryder.
Dylid rhoi digon o wybodaeth i rieni am yr hyn fydd yn digwydd er mwyn iddynt:
• Fod yn dawel eu meddwl bod yr ysgol yn deall eu pryder am les eu plentyn, ac yn gwneud popeth posibl i sicrhau ei d/ddiogelwch;
• Beidio cysylltu â’r ysgol. Gallai galw’r ysgol glymu llinellau ffôn sydd eu hangen i gysylltu ar y Gwasanaethau Brys;
• Beidio dod i’r ysgol. Gallent ymyrryd â mynediad y Gwasanaethau Brys i’r ysgol a rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl;
• Aros i’r ysgol gysylltu â nhw ynghylch pryd mae’n ddiogel iddyn nhw ddod i nôl eu plant, ac o le y dylent eu nôl
Mae’r ysgol yn deall bod rhieni’n poeni am les eu plant ac fe fydd popeth posib yn cael ei wneud i sicrhau diogelwch y disgyblion. Fodd bynnag, bydd angen i’r rhieni ddeall os yw’r ysgol mewn sefyllfa Cloi mewn Argyfwng Llawn ni fydd unrhyw un o bosib yn ymateb i alwadau ffôn, bydd y drysau allanol ar glo ac na fydd neb yn cael mynd i mewn nac allan o’r adeilad.
7. Ymarferion Cloi Mewn Argyfwng
Bydd ymarferion Cloi mewn Argyfwng yn digwydd o leiaf unwaith y flwyddyn er mwyn sicrhau bod pawb yn gwybod yn union beth i’w wneud mewn sefyllfa o’r fath. Bydd yr ymarferion yn cael eu monitro a rhoddir adborth i staff fel bod modd gwella’r weithdrefn lle bo’r angen
8. Adolygu’r Polisi a’r weithdrefn
Bydd y polisi a’r gweithdrefnau hyn yn cael eu hadolygu’n flynyddol fel rhan o’r cynllun tân a gadael brys a’r polisi Iechyd a Diogelwch
Nôd
Mae gan bob ysgol ddyletswydd fugeiliol tuag at ei disgyblion, maent yn chwarae rhan bwysig i atal camdriniaeth ac esgeulustod drwy greu a chynnal awyrgylch ddiogel i blant a phobl ifanc.
Egwyddorion
Mae gan athrawon a staff ategol yr ysgol swyddogaeth bwysig i adnabod arwyddion o gamdriniaeth am esgeulustod posibl a chyfeirio’u pryderon at y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae pob plentyn yn haeddu’r cyfle i gyrraedd ei botensial llawn. Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn chwarae rhan i alluogi pob disgybl gyflawni’r canlynol:
• Bod mor iach ag y mae modd yn gorfforol ac yn feddyliol
• Cael y budd pennaf o gyfleoedd addysgol o ansawdd da
• Teimlo’u bod yn cael eu caru a’u gwerthfawrogi, a’u cynnal gan rwydwaith ddibynadwy a chariadus o fewn yr ysgol
• Dod yn gymwys i edrych ar eu hôl eu hunain a delio gyda byw bob dydd
• Bod â delwedd gadarnhaol ohonynt eu hunain ac ymdeimlad diogel o hunaniaeth, gangynnwys hunaniaeth, diwylliant a hil
• Datblygu sgiliau rhyngbersonol da a hyder mewn sefyllfaoedd cymdeithasol
Diffiniadau o gam-drin ac esgeuluso plant
Gall rhywun gam-drin neu esgeuluso plentyn drwy beri niwed iddo, neu drwy fethu gweithredu i atal niwed.
Gall plentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod a bod angen eu hamddiffyn drwy Gynllun Amddiffyn Plant Rhyngasiantaethol Gwynedd.
1. Cam-drin corfforol - taro, celpio, gorddefnydd neu gamddefnydd o feddyginiaeth, cyfyngu
diangen neu gosbau amhriodol.
2. Cam-drin emosiynol/Seicolegol - bygythiadau o niwed neu adael rheoli gorfodol, camdriniaeth lafar neu hiliol, ynysu neu dynnu allan o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol, bod yn dyst i gamdriniaeth eraill.
3. Cam-drin Rhywiol - gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, boed y plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd neu beidio,
gan gynnwys: cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu heb fod yn dreiddiol’ gweithgareddau heb fod yn gyswllt, megis dwyn plant i mewn i edrych ar neu gynhyrchu pornograffig neu wylio gweithgareddau rhywiol neu annog plant i ymddwyn
mewn ffordd rywiol amhriodol.
4. Camdriniaeth Ariannol - ni fydd y categori hwn mor gyffredin i blentyn ond gall yr arwyddion gynnwys: peidio á chwrdd á’i hanghenion am ofal a chefnogaeth a ddarperir trwy daliadau uniongyrchol; neu gwynion fod eiddo personol ar goll.
5. Camdriniaeth Esgeulustod - methiant i gwrdd ag anghenion corfforol , emosiynol neu seicolegol sylfaenol sydd yn debyg o arwain at amharu ar iechyd neu ddatblygiad.
Dulliau Gweithredu
Bydd y Corff Llywodraethol yn sicrhau drwy’r Cydlynydd Amddiffyn Plant/ Pennaeth fod
Protocol Prosesau Mewnol yr ysgol yn cael ei gweithredu’n llawn yn unol â’r canllawiau ar gyfer athrawon a staff ategol yr ysgol.
Personau Cyfrifol Amddiffyn Plant
Llywodraethwr Dynodedig: Mr Alan Jones
Aelod wedi ei enwebu o’r Llywodraethwyr i gefnogi: Mrs S Williams
Cydgysylltydd o blith uwch reolwyr yr ysgol: Pennaeth / Dirpwy-Bennaeth
Swyddog Amddifyn Plant Cyngor Addysg Gwynedd Uwch Swyddog: Ms Bethan Helen Jones.
Hyfforddiant
Bydd y Corff Llywodraethol yn sicrhau fod aelodau o staff yr ysgol yn cael mynediad ihyfforddiant yn y maes ADY
Personau Cyfrifol Anghenion Arbennig
Llywodraethwr Dynodedig: Mr Alan Jones
Aelod wedi ei enwebu o’r Llywodraethwyr i gefnogi: Mrs Sian Williams
Cydgysylltydd o blith uwch reolwyr yr ysgol/Pennaeth: Mrs Falmai Ellis
Cydgysylltydd o blith uwch reolwyr yr ysgol: Mr Deian Williams
Cyfrifoldebau’r Cyd-gysylltydd yw:
• gweithredu’r polisi o ddydd i ddydd
• cydgysylltu a chydweithio gydag athrawon a’u cynghori am y ddarpariaeth
• cydgysylltu â rhieni disgyblion ADY
• cydgysylltu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY
• cadw cofnodion ADY yr ysgol a goruchwylio cofnodion pob disgybl ag anghenion arbennig yn rheolaidd
• cydgysylltu ag asiantaethau cynnal eraill, e.e. addysg, iechyd, cymdeithasol, gwirfoddol
• sicrhau adolygu’r trefniadau’n rheolaidd
• bwydo anghenion hyfforddiant i mewn i gynllun datblygu’r ysgol
Trefniadau Mynediad
Mae’r ysgol yn derbyn disgyblion ag ADY i mewn i’r ysgol drwy:
• gydweithio gyda’r asiantaethau cynnal wrth dderbyn disgybl o’r newydd
• fynychu cyfarfodydd swyddogol, fel adolygiadau datganiadau, e.e. trosglwyddo o’r cynraddi’r uwchradd, symud o ysgol arbennig
• drafodaethau a derbyn gwybodaeth e.e. symud o ysgol i ysgol
• drafod â rhieni
• ymdrin â’r cais mewn dull cadarnhaol ac o fewn yr amgylchiadau sy’n bodoli o fewn yrysgol ar yr adeg dan sylw
• ddarparu cefnogaeth sensitif a phriodol er mwyn sicrhau y bydd y disgybl yn cael ei gynnwys yn holl weithgareddau’r ysgol yn unol â Deddf Hawliau’r Anabl
Arbenigedd ADY ac unrhyw unedau arbennig
Sicrheir y darperir cyfleoedd ar gyfer staff dderbyn hyfforddiant ym maes ADY.
C. Gwybodaeth ar adnabod, asesu a darparu ar gyfer disgyblion ag ADY
Yn yr ysgol hon, yr ydym yn canfod anghenion addysgol yn fuan trwy:
• gael tystiolaeth o arsylwadau ac asesiadau athrawon gan gofio fod pob athro/awes yn gyfrifol am blant ag ADY
• edrych ar berfformiad y disgyblion yn erbyn disgrifiadau datganiadau y Cwricwlwm Cymru
• sicrhau fod dulliau sgrinio ac asesu safonedig yn wybyddus i bob athro. Defnyddir Profion Darllen Abertawe Phrofion Mathemategol NFER, Profion Cenedlaethol.
• fod yn agored a pharod i ymateb pan fo rhieni yn mynegi pryder, am y disgybl ei hun neu bryderon gan weithwyr proffesiynol eraill
Trefniadau ar gyfer darparu mynediad i ddisgyblion ag ADY i gwricwlwm eang a chytbwys,gan gynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol. Bydd pob disgybl ag ADY yn dilyn y cwricwlwm gydadisgyblion eraill. Os cyfyd anawsterau, yna:
1. rhoddir sylw unigol o fewn y dosbarth
2. paratoir gwaith unigol gan yr athrawon dosbarth a chan yr athrawes ADY
3. trefnir cydweithio â phlant eraill
4. ymgynghorir gydag asiantaethau cynhaliol
5. cynhelir trafodaethau gyda rhieni
6. llunnir cynllun addysg unigol i ddisgyblion o fewn Cymorth gan yr Ysgol, Cymorth gan yr Ysgol a Mwy ac ar gyfer disgyblion sydd ar Ddatganiad
Sut mae disgyblion ag ADY yn cael eu cynnwys?
Bydd yr ysgol yn darparu cefnogaeth sensitif a phriodol er mwyn sicrhau bydd y disgybl yn cael ei gynnwys yn holl weithgareddau’r ysgol, fel y bo modd. Dilynir Côd Ymarfer Comisiwn Hawliau’r Anabl (Ysgolion) a’r Ddeddf AAA ac Anabledd 2001.
Anelir i roi cymorth ADY yn bennaf mewn Llythrennedd a Rhifedd.
Mae trefniadau adolygu cynnydd y disgyblion ac fe wneir hyn trwy adolygiadau tymhorol a thrwy drafodaethau manwl rhwng y rhieni a’r athrawon gan roi pwyslais ar gyfraniad y disgybl.
Defnyddir ystafell bwrpasol ar gyfer addysgu plant unigol/grwpiau gan Athrawon Arbenigol.
Cedwir holl ddogfennaeth a gwybodaeth ADY mewn modd diogel. Gan fod safle’r ysgol ar un lefel ni fu’n angenrheidiol addasu’r adeilad hyd yma.
Trefniadau ar gyfer ystyried cwynion am y ddarpariaeth ADY
Gall rhiant sydd â chwyn gysylltu â’r canlynol yn y lle cyntaf:
• y Cyd-gysylltydd ADY
• y Pennaeth
• cynrychiolwyr y rhieni ar y Llywodraethwyr
• y Llywodraethwraig benodedig Anghenion Addysgol Arbennig
Os nad yw’r ffyrdd hyn yn cynnig ateb i’r gŵyn, yna gall y rhiant ddilyn y sianelau isod:
Mae canllawiau ar gyfer cwynion yn y Llawlyfr hwn ac mae Polisi Cwynion ar gael yn yr ysgol.
CH. Gwybodaeth am bolisïau staffio a phartneriaeth â chyrff allanol
Trefniadau’r ysgol ar gyfer hyfforddiant mewn swydd ADY.
• y Cydlynydd i adnabod anghenion hyfforddi gan fwydo i mewn i’r Cynllun Datblygu
• y gall yr ysgol gyflwyno cais i Bwyllgor HMS y dalgylch
Trefniadau ar gyfer partneriaeth â rhieni
Mae’r ysgol yn cydnabod y dylanwad holl bwysig sydd gan rieni ar gynnydd addysgol eu plant.
Er mwyn sicrhau partneriaeth effeithiol anogir cydweithrediad gyda rhieni trwy:
• dalu sylw proffesiynol ar gyfer pryderon rhieni gan eu trafod am amser rhesymol ac ar yramser cyfleus cyntaf
• gysylltu â’r rhieni pan benderfynir cymryd camau i ddelio ag anawsterau dysgu trwy Weithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy gan ofyn am eu barn a’u sylwadau
• roi lle amlwg i gymorth y rhiant lle bo hynny’n briodol
• roi sylw proffesiynol i farn y rhieni wrth lunio cynlluniau addysg unigol
• rannu gwybodaeth am ffynonellau cymorth
• sicrhau bod y polisi hwn, yn ei gyfanrwydd, ar gael i’r rhieni ei ddarllen
• gynnwys rhieni mewn adolygiadau rheolaidd ar eu plentyn
• ddarparu adran yn Llawlyfr yr Ysgol yn trafod ADY
Cysylltiadau ag ysgolion prif-lif eraill ac ysgolion arbennig, gan gynnwys y trefniadau pan fydd disgyblion yn newid neu’n gadael ysgol
Mae gan yr ysgol gysylltiad agos ag ysgolion y dalgylch ac yn cyd-drafod â hwy pan fydd
disgybl yn:
• symud o ysgol brif-lif i ysgol brif-lif arall - cysylltu am fanylion
• symud o ysgol gynradd i uwchradd - trosglwyddo gwybodaeth, cyfarfodydd adolygu
• symud i ysgol arbennig neu yn ôl i’r prif-lif - trafodaethau rhwng yr ysgolion a’r Cydbwyllgor
Anghenion Addysgol Arbennig
Yr ydym hefyd yn cydweithio gydag ysgolion ac yn cael hyfforddiant dalgylchol/sirol.
Cysylltiadau â gwasanaethau iechyd cynhaliol ac asiantaethau
Mae’r gwasanaeth cefnogi yn yr Awdurdod ar gael drwy’r Cydbwyllgor AAA a thrwy Cynnal.
Darperir gwasanaeth gan:
1. Y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol
2. Ymgynghorydd ADY, Cynnal
3. Athrawon arbenigol - nam ar y golwg, nam ar y clyw, nam corfforol, y gwasanaeth cynysgol, cynnal ymddygiad
4. Gwasanaethau Iechyd Gellir cyfeirio at y nyrs ysgol - mae’n ymwelydd rheolaidd ac yn bwynt cyswllt â phersonél eraill.
5. Gwasanaethau Cymdeithasol
Y pwynt cyswllt cyntaf yw’r Gwasanaeth Lles Addysg er mwyn cyfeirio’r ysgol tuag at y man nifer o flynyddoedd. Cysylltir yn uniongyrchol â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar unrhyw adeg gyda materion brys.
6. Gwasanaeth Lles Addysg Mae’r Swyddog Lles yn ymwelydd rheolaidd â’r ysgol a defnyddir y swyddog i ymweld â chartrefi lle bo angen. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig arweiniad a chymorth gan gyfeirio’r ysgol at asiantaethau eraill.
7. Cyrff Gwirfoddol Cynhwysir rhestr o ffynonellau cymorth yng nghefn y ffeil ‘Côd Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002’.
8. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc [CAMHS]
9. Gyrfa Cymru
10. Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant
Mae’r ysgol yn sicrhau bod disgyblion ag anabledd yn cael mynediad llawn i’r cwricwlwm ac i weithgareddau addas yn yr ysgol.
Nid yw’r ysgol yn gwahaniaethu ar sail anabledd wrth ddarparu addysg i’w disgyblion.
Dywed y Ddeddf AAA ac Anabledd 2001 bod yn rhaid i’r corff sy’n gyfrifol am yr ysgol gymryd unrhyw gamau rhesymol er mwyn sicrhau nad yw disgyblion anabl a darpar ddisgyblion anabl yn cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol o’u cymharu â rheini nad ydynt yn anabl.
Amcanion Adran Addysg Gwynedd
Yn unol â’r gofyn cyfreithiol, bydd yr Adran Addysg yn darparu addysg brif ffrwd ar gyfer
disgyblion ag anabledd
Bydd yr Awdurdod yn unol â gofynion y Ddeddf yn cynllunio’n strategol i wneud yr hollysgolion a gynhelir ganddynt yn fwy hygyrch ar gyfer disgyblion anabl dros amser. Rhaid i’r strategaethau hygyrchedd AALl ymdrin â
• Ehangu’r cyfleoedd er mwyn disgyblion anabl allu cymryd rhan yng nghwricwlwm yr ysgol
• Gwella amgylchedd ffisegol yr ysgol ar gyfer disgyblion anabl
• Gwella’r dull o drosglwyddo’r wybodaeth a roddir ar ffurf ysgrifenedig o ddisgyblion eraill i ddisgyblion anabl
Cydweithir gydag asiantaethau eraill a sicrheir bod staff yn sensitif tuag at gyflwr disgybl
Mae mwyafrif y disgyblion sydd ag anghenion meddygol yn gallu mynychu ysgol, a gydagychydig o gymorth, cael mynediad llawn i’r Cwricwlwm Cenedlaethol a gweithgareddau yn gysylltiedig ag o.
Mae peryg i ddisgyblion sydd â chyflyrau meddygol tymor hir neu sydd yn absennol am gyfnod maith, gael trafferthion wrth sicrhau rhediad di-dor yn eu haddysg, ac oherwydd hynny, cael eu colli yn y system.
Mae’r polisi’n cyfeirio at ddisgyblion sâl eu hiechyd neu wedi’u hanafu neu sy’n dioddef o salwch meddwl.
Datganiad o fwriad
Bydd Adran Addysg Gynedd yn cynghori a chynorthwyo ysgolion i annog a chefnogi disgyblion s ydd gydag anghenion meddygol arbennig.
Egwyddorion Sylfaenol
Er mwyn adnabod a chefnogi disgyblion sydd gydag anghenion meddygol arbennig, byddyr ysgol yn sefydlu strategaethau ar gyfer cefnogi disgybl sydd yn ceisio mynychu’r ysgol er gwaethaf ei gyflwr, mewn ymgynghoriad â rhieni ac asiantaethau eraill.
Yn gyffredinol, ni chodir tâl am weithgareddau addysgol – yn unol â gofynion Deddf Diwygio Addysg 1985. Mae Corff Llywodraethol Ysgol Manod wedi penderfynu:
1. codi tâl am weithgareddau a gynhelir tu allan i oriau ysgol nad ydynt yn rhan o weithgareddau sy’n ofynnol eu cynnal yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cymru neu addysg grefyddol statudol
2. codi tâl am wersi offerynnol unigol
3. peidio codi tâl am lyfrau, deunyddiau, offer neu gludiant sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau addysgol onid yw rhieni wedi mynegi dymuniad ymlaen llaw i brynu’r cynnyrch
4. codi tâl am yr holl gostau bwyd a llety yn ystod ymweliadau preswyl ac eithrio plant sydd â hawl i dderbyn ad-daliad statudol
5. gofyn i rieni wneud cyfraniad gwirfoddol tuag at gost unrhyw weithgareddau ble nad oes tâl gorfodol. Os yw cyfanswm y cyfraniadau a wneir yn annigonol, gall gweithgareddau o’r fath gael eu dileu neu eu gohirio. Ni waherddir unrhyw blentyn rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath naill ar sail anabledd neu oherwydd gwrthod gwneud cyfraniadau gwirfoddol.
6. hysbysu rhieni cyn ymweliad, taith, perfformiad a.y.y.b yn unol â’r Polisi ar Deithiau Ysgol ac Ymweliadau Addysgol.
7. dirprwyo i’r Pennaeth yr hawl i benderfynu ba raddau, os o gwbl, y defnyddir arian o gronfa’r
ysgol neu ffynhonnell arall i dalu cyfran o gôst y gweithgareddau.
8. dirprwyo i’r Pennaeth yr hawl i benderfynu ar achosion a all godi wrth weithredu’r polisi hwn. Trwy ddilyn y polisi hwn, y gobaith yw y gellir rhannu’r baich ariannol a osodir ar rieni mewn ffordd deg, wrth sicrhau ar yr un pryd y caiff pob plentyn gyfle i elwa o drefniadau o’r fath.
Yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data bydd y wybodaeth a gyflwynir yn cael ei gadw’n gwbl gyfrinachol ac ar gyfer hybu addysg disgyblion a rheolaeth yr ysgol yn unig.
Hysbysiad Preifatrwydd (Sut ydym yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion)
Mae’r categorïau gwybodaeth am ddisgyblion yr ydym yn eu casglu, eu dal a’u rhannu yn cynnwys:
• Gwybodaeth bersonol (megis enw, rhif unigryw disgybl a chyfeiriad)
• Nodweddion (megis ethnigrwydd, iaith, cenedligrwydd, gwlad enedigol a chymhwysedd pryd ysgol am ddim)
• Gwybodaeth am bresenoldeb (megis nifer y sesiynau a fynychwyd, nifer yr absenoldebau a rhesymau dros absenoldeb)
• Gwybodaeth am asesiadau
• Gwybodaeth feddygol berthnasol
• Gwybodaeth am Anghenion Addysgol Arbennig
• Gwybodaeth am waharddiadau/ymddygiad
• Gwybodaeth bersonol am rieni’r disgybl a/neu berthnasau eraill (megis enw, manylion cyswllt, perthynas â’r plentyn)
Pam yr ydym yn casglu a defnyddio’r wybodaeth hon
Rydym yn defnyddio data disgybl:
• i gefnogi addysg y disgybl
• i fonitro ac adrodd ar gynnydd y disgybl
• i ddarparu gofal bugeiliol priodol
• i asesu ansawdd ein gwasanaethau
• i gydymffurfio â’r gyfraith ynglŷn â rhannu data
• i rannu data ar gyfer archwiliadau statudol a dibenion archwiliad
Y sail gyfreithlon pam yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth hon
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion, staff a llywodraethwyr dan
• Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 2011
• Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011
• Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
• Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011
• Rheoliadau Addysg (Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion) (Cymru) 2011
• Deddf Cyflogau a Thelerau Gwaith Athrawon 1991
• Cytundebau Cyfunol Cenedlaethol Rhwng Cyngor Awdurdod Addysg Lleol ac Undebau Athrawon Cydnabyddedig
• Cytundebau Cyfunol Lleol Rhwng Awdurdod Addysg Gwynedd ac Undebau a Gydnabyddirgan yr Awdurdod ar gyfer trafodaethau ar ran Athrawon
• Deddf Diogelu Data 1998
• Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012
• Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol A’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
• Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
• Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
• Ddeddf Iechyd a Diogelwch Wrth Waith a.y.y.b 1974 (Health and Safety at Work, etc. Act, 1974)
• Deddf Cydraddoldeb / Equality Act 2010
• Gorchymyn Rheoleiddio (Diogelwch Tan)2005/ Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 ( ffurflenni PEEPS yn cael eu cwblhau ac mae rhain yn cynnwys manylion unrhyw anableddau sydd gan blentyn/staff)
• Erthygl 6(c) ac (e) ac Erthygl 9 (g) (GDPR)
• Gallwn hefyd ddefnyddio caniatâd ar adegau (e.e. ffotograffau)
• Casglu gwybodaeth am ddisgyblion
Er bod y mwyafrif o wybodaeth am ddisgybl yr ydych yn ei darparu i ni yn orfodol, darperir ychydig ohoni i ni ar sail wirfoddol. Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, byddwn yn eich hysbysu p’un a fydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth benodol i ni am ddisgybl neu os oes gennych ddewis yn hyn. Os darperir gwybodaeth i ni ar sail wirfoddol, byddwn yn gofyn i chi roi caniatâd penodol ac yn rhoi’r opsiwn i chi dynnu’r caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
Cadw data am ddisgyblion
Rydym yn cadw data am ddisgyblion am gyfnodau amrywiol o amser yn dibynnu beth yw’r wybodaeth. Mae cyfnodau cadw wedi’i gynnwys ym mholisi diogelu data yr ysgol.
Gyda phwy yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion
Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd gyda:
• ysgolion a fynychwyd gan y disgyblion ar ôl ein gadael
• ein hawdurdod addysg lleol - Cyngor Gwynedd - Gwasanaethau - Cymdeithasol, Hamdden, Cludiant, Cyllid, Ieuenctid.
Asiantaethau a gomisiynir gennym i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan: LlywodraethCynulliad Cymru (drwy HWB)
• Byrddau Arholi
• Colegau Addysg Bellach
• Prifysgol Bangor, a sefydliadau eraill addysg Uwch yn Nghymru a Phrydain fawr a phrifysgolion sydd yn rhan o rhaglen SEREN Llywodraeth Cymru
• Cwmni Cynnal
• Heddlu a Thîm Troseddu’r Ifanc
• Gwasanaethau Iechyd
• Antur Waunfawr (gwaredu deunyddiau cyfrinachol)
Cwmnïau Perthnasol sy’n hybu gweinyddiaeth a phrofiadau addysg disgylbion
• Urdd Gobaith Cymru
• CAPITA - SIMS
• School Gateway
• INCERTS
• EVOLVE
• Seesaw
• Mathematics
• TT Rock Stars
• HWB
Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ein disgyblion gydag unrhyw un heb ganiatâd, oni bai bod y gyfraith a’n polisïau yn caniatáu i ni wneud hynny.
Rydym yn rhannu data am ddisgyblion gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ar sail statudol. Mae rhannu data yn y modd hwn yn ategu cyllid yr ysgol a pholisi a monitro
cyrhaeddiad addysgol.
Ysgolion a gynhelir:
Mae’n ofynnol i ni rannu gwybodaeth am ein disgyblion gyda’n hawdurdod lleol (ALl) Cyngor Gwynedd a Llywodraeth y Cynulliad dan: Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011
15 Gofynion casglu data:
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011
Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011
Gofyn am fynediad at eich data personol
Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a disgyblion yr hawl i ofyn am fynediad at y wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Er mwyn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu ofyn am fynediad at gofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch â ‘r Pennaeth/Ms
Louise Jones, Swyddog Diogelu Data.
E-bost: sddysgolion@gwynedd.llyw.cymru
Swyddog Diogelu Data Ysgolion Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Mae gennych hefyd yr hawl i:
• wrthwynebu i ddata personol gael ei brosesu sy’n debygol o achosi, neu sy’n achosi, niwed neu ofid
• atal unrhyw beth rhag cael ei brosesu er dibenion marchnata uniongyrchol
• gwrthwynebu i benderfyniadau gael eu gwneud gan ddulliau awtomataidd
• cywiro, rhwystro, dileu neu ddinistrio data personol anghywir, mewn amgylchiadau penodol; a hawlio iawndal am y niwed a achoswyd o ganlyniad i dorri rheoliadau Diogelu Data
Os oes gennych bryder ynglŷn â’r modd yr ydym yn casglu neu’n defnyddio eich data personol, gofynnwn i chi nodi eich pryder gyda ni ddechrau. Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy https://ico.org.uk/concerns/Cysylltu
Os hoffech drafod unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data Ysgolion
Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Cynllun
Fframwaith Cyfreithiol
Mae’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd yn ddyletswydd o fewn Deddf Gwahaniaethu
(DDA) 2005 ble mae’n ofynnol i ysgolion gymryd camau rhagweithiol er mwyn sicrhau bod disgyblion, staff a llywodraethwyr, rhieni/gofalwyr a phobl eraill anabl s’n defnyddio’r ysgol yn cael eu trin yn gyfartal.
Ceir 2 elfen i’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd:
1. Y Ddyletswydd Gyffredinol:
• Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl anabl a phobl eraill
• Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon
• Dileu aflonyddu sy’n gysylltiedig ag anabledd
• Hyrwyddo agweddau positif tuag at bobl anabl
• Annog pobl anabl gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus
• Cwrdd ag anghenion pobl anabl ( hyd yn oed os yw hynny’n golygu cael eu trin yn well)
2. Y Dyletswydd Benodol
• Llunio Cynllun Cydraddoldeb Anabledd – Copi ar gael yn yr ysgol
Diffinio Anabledd (yn cynnwys cancr, clefyd siwgr, epilepsi, HIV, MS, Nam ar y clyw neu’r golwg, ‘mobility’ symudedd, cyflyrau iechyd meddwl, anawsterau dysgu)
“Mae Anabledd yn nam corfforol neu feddyliol a gaiff effaith niweidiol sylweddol a hir dymor ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau arferol dydd i ddydd” (DDA 1995 Rhan 1 para. 1.1.) Cafodd y diffiniad hwn ei ddiwygio a’i ehangu yn Rhagfyr 2005 o dan Ddeddf DdiwygiedigAnabledd 2005:
• Caiff pobl â chancr neu sydd wedi goroesi cancr bellach eu cynnwys, fel y caiff pobl gydag
HIV a pharlys ymledol o safbwynt diagnosis
• Nid oes bellach angen i nam ar y meddwl gael ei adnabod yn glinigol
Mae Cydraddoldeb Anabledd mewn Addysg (DEE) yn argymell y dylai pob disgybl ag ADY a’r rheini ag anghenion meddygol hir dymor gael eu trin fel bod yn anabl at ddiben y Ddeddf ac er mwyn cydraddoldeb. Mae hyn yn ychwanegol at bob disgybl gyda nam hir dymor, a gaiff 23 effaith sylweddol ar eu gweithgareddau dydd i ddydd.
Mae’r ysgol hon yn defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd ac yn cydnabod na chaiff anabledd ei achosi gan yr unigolion, ond gan y rhwystrau ffisegol, amgylcheddol ac o ran agwedd a geir yn y system addysg ac mewn cymdeithas yn gyffredinol.
Os yr ydych yn awyddus i weld y Cynllun Cydraddoldeb Anabledd mae croeso i chi wneud apwyntiad â’r Pennaeth.
1. Dyletswyddau cyfreithiol
Mae’r ysgol yn croesawu ei dyletswyddau o dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiedig) 2000.
Rydym wedi ymrwymo i:
• Hyrwyddo cyfle cyfartal
• Hyrwyddo cysylltiadau da rhwng aelodau gwahanol grwpiau a chymunedau hiliol,diwylliannol a chrefyddol
• Cael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon
2. Egwyddorion arweiniol
Wrth gyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol a restrir uchod, cawn ein harwain gan dair egwyddor hanfodol:
• Dylai pob disgybl gael cyfleoedd i sicrhau’r safonau uchaf posibl a’r cymwysterau gorau
posibl ar gyfer cyfnodau nesaf ei fywyd a’i addysg
• Dylid cynorthwyo pob disgybl i ddatblygu synnwyr o hunaniaeth bersonol a diwylliannol sy’n hyderus , yn barod i dderbyn newidiadau, ac i dderbyn a dangos parch tuag at hunaniaeth pobl eraill
• Dylai pob disgybl ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r medrau hynny mae arno ef/ hi eu hangen er mwyn gallu cyfranogi mewn cymdeithas amlhiliol ac yng nghyd-destun ehangach byd rhyng-ddibynnol
3. Cyfrifoldebau
Corff Llywodraethol
• Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â deddfwriaeth ynghylch Cysylltiadau Hiliol yn cynnwys y dyletswyddau cyffredinol a phenodol a restrir yn Neddf ddiwygiedig 2000
• Gyda chymorth y Pennaeth, mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am gymryd y camau priodol er mwyn galluogi’r ysgol i lynu at y polisi hwn ar Gydraddoldeb Hiliol
• Mae’r Corff Llywodraethol yn cynnwys materion sy’n ymwneud â Chydraddoldeb Hiliol fel eitem ar agenda cyfarfodydd o’r Corff Llywodraethol ac mae ganddo lywodraethwr dynodedig ar gyfer cydraddoldeb sef Mrs Sian Williams
Pennaeth
• Y Pennaeth, ynghyd â’r Corff Llywodraethol yn Ysgol Manod, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am weithredu’r mesurau priodol er mwyn galluogi’r ysgol i ddilyn y polisi hwn ar Gydraddoldeb Hiliol 24
• Mae’r Pennaeth yn sicrhau bod staff yn derbyn hyfforddiant ac yn cael eu hysbysu o oblygiadau’r polisi, yn cynnwys y ddeddfwriaeth berthnasol
Athrawon
• Mae’r holl athrawon yn gyfrifol am sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf ar yddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion cysylltiadau a Chydraddoldeb Hiliol
• Gwyr athrawon sut i ymdrin â digwyddiadau hiliol yn yr ystafell ddosbarth, sut i hyrwyddoamrywiaeth a sut i adnabod a herio rhagfarn a stereoteipio
• Yn eu haddysgu, mae staff yn annog perthnasoedd gweithio cadarnhaol rhwng disgyblion gan sicrhau y caiff disgyblion o bob grŵp hiliol ac ethnig eu cynnwys mewn pob gweithgaredd a bod ganddynt fynediad i’r cwricwlwm. Nid yw athrawon byth yn gwahaniaethu, nac yn gadael i deimladau, rhagfarnau neu ragdybiaethau personol ynghylch grwpiau hiliol neu ethnig effeithio ar sut maent yn trin disgyblion penodol, rhieni neu aelodau eraill o’r staff
Staff ategol (yn cynnwys yr holl staff gweinyddol, arolygwyr amser cinio, gweithwyr arlwyo a gofalwyr)
• Mae’r holl staff ategol yn gyfrifol am sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu wrth gyflawni eu dyletswyddau, nag yn gadael i deimladau, rhagfarnau, rhagdybiaethau personol neu stereoteipiau ynghylch grwpiau hiliol neu ethnig effeithio ar eu triniaeth o ddisgyblion penodol, rhieni neu aelodau eraill o’r staff
Pawb sy’n gyflogedig
• Mae’n gyfrifoldeb ar bawb sy’n gweithio yn Ysgol Manod i ddarllen, deall a chydymffurfio â’r polisi hwn
Ymwelwyr a chontractwyr sy’n gweithio ar y safle
• Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod pob ymwelydd neu gontractwr sy’n gweithio ar y safle yn ymwybodol o safiad yr ysgol ar gydraddoldeb hiliol ac achosion o aflonyddu hiliol
4. Mae gan yr ysgol berson dynodedig ar gyfer ymdrin â digwyddiadau hiliol.
• Yr unigolyn dynodedig yw’r Pennaeth
• Mae’r unigolyn dynodedig yn sicrhau y caiff pob digwyddiad hiliol yr hysbysir yn ei gylch ei gofnodi mewn cofrestr ac y cwblheir furflenni sy’n hysbysu ynghylch digwyddiad hiliol ac y cânt eu hanfon at yr AALL
5. Y Cwricwlwm
Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth diwylliannol yn y cwricwlwm trwy addysgu cynnwys amrywiol diwylliannol mewn dull cadarnhaol, adolygu dogfennaeth er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn briodol a thrwy feithrin parch tuag at bobl o wahanol grwpiau hiliol ac ethnig.
Ein nôd yw cynorthwyo plant i ddatblygu’r wybodaeth, dealltwriaeth, medrau ac agweddau angenrheidiol a fydd yn eu galluogi chwarae rhan lawn a gweithredol yn ein cymdeithas amlhiliol.
Trwy gyfrwng amrywiaeth o brofiadau dysgu, gall y plant archwilio cyfraniadau gwahanol grwpiau diwylliannol, hiliol a chrefyddol yn ein cymdeithas tra ar yr un pryd ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o grwpiau o’r fath. Trwy wneud hyn, y gobaith yw y bydd ymwybyddiaeth y plant o barch tuag at amrywiaeth diwylliannol ac ethnig yn yr ystafell ddosbarth, yr ysgol neu’r gymuned yn cael ei ddatblygu.
Gwnawn bob ymdrech i sicrhau y caiff pob disgybl fynediad i’r cwricwlwm prif-ffrwd trwygymryd i ystyriaeth eu cefndiroedd diwylliannol a’u hanghenion ieithyddol unigol a thrwy
wahaniaethu gwaith yn briodol.
Gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall pob disgybl gyfranogi a theimlo bod eucyfraniadau’n cael eu gwerthfawrogi. Anogwn ddisgyblion o bob cefndir i gydweithio gan ddangos cydweithrediad a dealltwriaeth, gan ddysgu oddi wrth brofiadau amrywiol ei gilydd. Mae ein haddysgu yn herio rhagfarn a stereoteipiau hiliol ac rydym yn meithrin ymwybyddiaeth feirniadol disgyblion o ragfarn, anghyfartaledd a chyfiawnder.
Trwy gyfrwng y bartneriaeth a geir rhwng y cartref, yr ysgol a’r gymuned ehangach, gobeithiwn gyfoethogi’r cwricwlwm trwy annog pobl o ddiwylliannau, crefyddau a chefndiroedd ethnig eraill i ymweld â’r ysgol a rhannu eu profiadau a’u syniadau gyda’r plant.
6. Cyrhaeddiad a chynnydd
Ein nôd yw sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial. Rydym yn monitro cynnydd disgyblion unigol er mwyn canfod unrhyw arwyddion o dangyflawni a defnyddiwn fonitro ethnig ble bo’n briodol er mwyn canfod unrhyw wahaniaethau perthnasol rhwng perfformiadau grwpiau ethnig. Ymdrinnir â’r rhain trwy gefnogaeth wedi ei gynllunio a’i dargedu. Pan fo angen, gofynnir am gyngor gan Ymgynghorwyr yr AALl.
7. Cefnogaeth Fugeiliol
Cymer ein cefnogaeth fugeiliol i ystyriaeth wahaniaethau crefyddol ac ethnig a phrofiadau plant sy’n ffoaduriaid ac sy’n ceisio lloches neu unrhyw grŵp arall sydd dan anfantais, fel bo angen.
Rydym yn darparu cefnogaeth briodol ar gyfer y disgyblion hynny mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, mewn ymgynghoriad ag Ymgynghorwyr yr AALl, ac rydym yn eu hannog i ddefnyddio a datblygu eu mamieithoedd ble bo modd.
Mae disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn derbyn cefnogaeth briodol.
8. Ymddygiad a disgyblaeth
Mae safonau uchel o ymddygiad yn ddisgwyliedig gan bob disgybl. Caiff pob disgybl ei drin yn deg a heb wahaniaethu yn ei erbyn pan gaiff ei ddisgyblu am ymddygiad sy’n tarfu. Ymdrin yn gadarn ac yn gyson â digwyddiadau o natur hiliol a chynhelir ymchwiliad llawn i bob honiad o aflonyddu neu bryfocio hiliol.
9. Mynediad a Phresenoldeb
Mae gan yr ysgol bolisi mynediad agored a bydd yn derbyn cymaint o ddisgyblion ac mae lle iddynt fel y pennwyd gan yr AALl. Cofnodir presenoldeb yn ofalus ac os yw’n berthnasol, gellir monitro hynny yn ôl grwpiau ethnig.
10. Peidio â dilyn y polisi
Pan na ddilynir y polisi hwn, ymdrin â hynny yn yr un ffyrdd ag yr ymdrin ag achosion pan na ddilynir polisïau ysgol eraill, fel y penderfynir gan y Pennaeth a’r Corff Llywodraethol.
11. Cyfathrebu
Mae’r polisi llawn ar gael i rieni, ymwelwyr ac aelodau o’r gymuned ehangach os gofynnant amdano. Darperir gwybodaeth ynglŷn â’r polisi i rieni trwy’r fforymau cyfathrebu arferol a gynhelir rhwng yr ysgol a’r cartref. Anfonir crynodeb o’r polisi at bawb sy’n ymgeisio am swyddi ac fe’i cyhoeddir yn llawlyfr yr ysgol.
12. Monitro ac Arfarnu
Rydym yn casglu, astudio ac yn defnyddio data meintiol ac ansoddol sy’n ymwneud âgweithredu’r polisi hwn, gan addasu ble bo’n briodol. Cynllun gweithredu ar gyfer gweithredu’r polisi hwn a monitro ei effaith.
