Ysgol
Cartref > Ysgol
Ein gweledigaeth yw darparu ysgol lle ceir ymdeimlad o deulu a phartneriaeth rhwngdisgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned leol. Cydweithiwn gyda’n gilydd i gynnig amgylchedd croesawgar, gofalgar a diogel er mwyn annog dysgu ac addysgu effeithiol.Trwy ddull ysgol gyfan, ceisiwn gefnogi llesiant meddyliol a chorfforol da drwy hyrwyddoethos diwylliannol cadarnhaol, lle mae’r dysgwyr yn meithrin cydberthnasau positif â holl randdeiliaid yr ysgol.
Dymunwn ysbrydoli, herio a chefnogi ein disgyblion drwy gynnig profiadau eang, cyffrous ac ysgogol iddynt. Anelwn at feithrin chwilfrydedd naturiol ym mhob plentyn ac iddynt fwynhau dysgu, wrth iddynt dyfu’n emosiynol, corfforol, creadigol a chymdeithasol.
Ein bwriad yw galluogi disgyblion i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus, sydd yn barod i wynebu heriau a dysgu sgiliau newydd er mwyn iddynt fod y gorau y gallent fod.
Anelwn at gael disgyblion cydwybodol a pharchus sydd yn ymfalchïo yn eu hetifeddiaeth,traddodiadau a’u hiaith. Gosodir gwreiddiau cadarn yn eu milltir sgwâr, eu Cymreictod yn ogystal â’u teyrngarwch at y gymuned leol, tra ar yr un pryd, yn datblygu parch at gred a
diwylliannau eraill.
Caiff pob unigolyn o fewn cymuned yr ysgol ei werthfawrogi a’i barchu a hyrwyddwn unigolion caredig a hapus sydd yn annibynnol, gwydn a hyderus gan werthfawrogi cyfranogiad pawb.
Ymgeisiwn ennyn dysgwyr sydd yn ddinasyddion cyfrifol er mwyn iddynt allu gofalu am eu hamgylchfyd lleol a’r byd eang .
Mae Llais y Plentyn yn bwysig iawn yn Ysgol Manod. Credwn gall cyfranogiad disgybl at y dysgu a’u cynnwys mewn penderfyniadau greu amgylchedd grymusol sy’n cynyddu dyheadau, yn ogystal â datblygu agweddau positif mewn pobl ifanc tuag at faterion sydd yn ymwneud yn fyw â’u cymuned a thu hwnt.
Gyda’ch cydweithrediad, gallwn fagu’r hyder yn y plant i feithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes.
