Llywodraethwyr
Cartref > Ysgol > Llywodraethwyr
Mr. A. Jones - Cadeirydd y Llywodraethwyr
Mrs S. Williams - Is-Gadeirydd y Llywodraethwyr
Mae rôl y Llywodraethwyr yn hanfodol ar gyfer datblygiad yr ysgol, ac yn cynorthwyo drwy eistedd fel bwrdd ymgynghorol a chyfarwyddol. Gwnânt benderfyniadau ynglŷn â sut mae’r ysgol yn cael ei gweithredu. Bydd y Corff Llawn yn cyfarfod o leiaf unwaith bob tymor, a cheir cyfarfodydd rheolaidd o’r is bwyllgorau er mwyn trafod agweddau staffio, cyllid, addysg arbennig, cwricwlwm ac adeiladau.
Mae Llywodraethwyr yn cael eu penodi i gynorthwyo wrth:
- benderfynu beth sydd yn cael ei ddysgu a bod y disgyblion yn derbyn addysg o’r ansawdd uchaf
- safoni ymddygiad pant
- gyfweld a phenodi staff
- benderfynu sut mae gwario’r gyllideb
Mae Llywodraethwyr yn:
- Rieni
- Athrawon a staff ategol yr ysgol
- Cynrychiolwyr cynghorau lleol
- Cynrychiolwyr y gwasanaethau masnachol
Mae rhieni Llywodraethwr:
- Gyda phlentyn yn yr ysgol
- Yn cael ei ethol/hethol gan rieni’r ysgol
- Yn gwasanaethu fel bob llywodraethwr arall am gyfnod o 4 blynedd
Crynodeb o Ganllawiau ynghylch y dyletswydd i gynnal cyfarfodydd gyda rhieni
Crynodeb yn unig yw’r canllawiau hyn. Dylid cyfeirio at Ganllawiau Llywodraeth Cymru.
Dogfen ganllawiau rhif: 104/2013
- Mae’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion Cymru 2013 (adran 94 (13) yn disodli’r gofyniad blaenorol i Gorff Llywodraethu gynnal cyfarfod blynyddol gyda rhieni
- Ddoth y canllawiau i rym ar 4ydd o Fai 2013
- Mae’r Ddeddf yn caniatáu i rieni ofyn am 3 chyfarfod mewn blwyddyn ysgol gyda chorff llywodraethu ysgol eu plentyn
Gofynion Statudol
Rhaid i’r ddeiseb yn galw am gyfarfod cynnwys llofnodion y nifer gofynnol o rieni disgyblion cofrestredig:
- rhieni 10% o ddisgyblion cofrestredig neu
- 30 o ddisgyblion cofrestredig pa un bynnag sydd leiaf. Mewn Ysgolion o dros 300 o ddisgyblion byddai’n haws i rieni fodloni’r gofyniad i gael 30 o lofnodion
- e.e. efallai bydd dau riant yn llofnodi’r ddeiseb ond dim ond un plentyn sydd ganddynt yn yr ysgol. Mewn achos o’r fath bydd dau lofnod yn cyfrif fel un “disgybl cofrestredig”
- e.e. efallai y bydd un rhiant yn llofnodi’r ddeiseb ond bydd ganddo dri phlentyn yn yr ysgol.Golyga hyn y bydd llofnod y rhiant yn cyfrif fel tri “disgybl cofrestredig”
- Disgwylir y bydd modd i rieni gael gwybodaeth gan swyddfa’r ysgol ynghylch faint o ddisgyblion cofrestredig sydd ar gofrestr ysgol
Rhaid mai amcan y cyfarfod yw trafod materion yn ymwneud â’r ysgol:
- Rhaid peidio ag ystyried cyfarfod fel ffordd arall o wneud cwyn
- Rhaid peidio ag ymdrin â materion personol, unigol sy’n ymwneud â phlentyn neu aelod o staff. Byddai materion o’r fath yn rhywbeth cyfrinachol nad ydynt yn addas i’w trafod yn agored
- Gellir trafod mater neu bryder un dosbarth yn unig - cyn belled â bod y nifer trothwy ar gyfer cyflwyno’r ddeiseb wedi ei fodloni - nid oes newid i’r trothwy
- Pe byddai panel o’r llywodraethwyr yn gwrthod cais i gynnal cyfarfod ar sail nad amcan y cyfarfod yw trafod materion yn ymwneud â’r ysgol, gall rhieni anghytuno a defnyddio’r weithdrefn gwyno er mwyn apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw Ni chaiff mwy na thri chyfarfod eu cynnal yn ystod y flwyddyn ysgol yn sgil deiseb gan rieni:
- Golyga blwyddyn ysgol o ddechrau tymor yr hydref ym Medi un flwyddyn i ddiwedd tymor yr haf yng Ngorffennaf y flwyddyn addysgol honno
Rhaid sicrhau bod digon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol er mwyn gallu cynnal cyfarfod cyn pen 25 diwrnod:
- Mae’r ddeddf yn darparu mai dim ond os oes digon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol i allu cynnal cyfarfod cyn pen 25 diwrnod y gellir galw cyfarfod
- Nid yw penwythnosau, gwyliau banc/cyhoeddus, gwyliau ysgol na diwrnodau HMS yn cyfrif tua at y cyfnod 25 diwrnod
Y broses o gyflwyno deiseb
Er mwyn i Gorff Lywodraethu allu bod yn siŵr bod deiseb ddilys wedi’i chyflwyno, disgwylir i’r ddeiseb:
- gynnwys datganiad bod rhieni yn arfer eu hawl i wneud cais am gyfarfod gyda’r corff llywodraethu;
- roi crynodeb byr o’r materion i’w trafod a’r rhesymau dros alw’r cyfarfod;
- nodi pa rif yw’r cyfarfod hwnnw yn y flwyddyn ysgol honno, oherwydd mai 3 chyfarfod yn unig y gellir eu cynnal mewn blwyddyn ysgol; 35
- nodi’n glir ar frig y ddeiseb grynodeb o’r materion i’w trafod gyda llofnodion y rhieni oddi tanynt
Pan ddaw deiseb i law
Rhaid i gorff llywodraethu gynnal cyfarfod os:
- daw deiseb i law gan rieni
- yw’r corff llywodraethu yn fodlon bod y gofynion statudol wedi eu bodloni
- Disgwylir i’r ddeiseb ddod i law’r clerc llywodraethu neu gadeirydd y corff llywodraethu ar gyfer ei hystyried gan y corff llywodraethu, Byddai’n dderbyniol hefyd cyflwyno deiseb at y corff llywodraethu “drwy law” y Pennaeth
Sut dylai corff llywodraethu fynd ati i roi rhybudd am gyfarfod?
- Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig sy’n cynnwys dyddiad, lle ac amser
- y cyfarfod ynghyd â’r materion sydd i’w trafod, ar bob hysbysfwrdd ysgol ac mewn lleoedd amlwg ac wrth ymyl pob allanfa o dir yr ysgol. Yn ogystal â hynny dylid anfon llythyr at rieni’r holl ddisgyblion sy’n gofrestredig. Gellir ei anfon drwy law’r disgybl neu’n electronig
- Dylai’r cyfarfod fod yn agored i’r Pennaeth ac i unigolion eraill mae’r corff llywodraethu am eu gwahodd
- Ni cheir codi tâl am ddarparu gwybodaeth ar gyfer unrhyw un mewn perthynas â’r cyfarfod. Dylid cynnal cyfarfod cyn pen 25 diwrnod ar ôl i’r ddeiseb ddod i law
- Dylid rhoi rhybudd o 10 diwrnod ysgol lawn Cynnal Cyfarfod Awgrymir y dylai ysgol nodi gweithdrefn sy’n rhoi sylw i’r materion isod:
- pwy fydd yn cadeirio’r cyfarfod
- y cworwm gofynnol ar gyfer y rhieni a’r llywodraethwyr (disgwylir i’r cworwm ar gyfer rhieni fod yn gyfran o nifer y rhieni sydd wedi llofnodi’r ddeiseb)
- pwy fydd yn cymryd cofnodion (yn ddelfrydol y clerc)
- beth fydd y drefn i rieni gael siarad yn y cyfarfod
- yr wybodaeth y bydd angen ei hanfon at bob llywodraethwr cyn y cyfarfod
- materion i’w’ hystyried yn dilyn cyfarfod
Rhoi gwybod ar gyfer rhieni am eu hawl i gyflwyno deiseb yn gofyn am gyfarfod o dan Adran 94 o’r ddeddf
- Disgwylir i gorff llywodraethu roi gwybod i rieni am eu hawl wrth gyflwyno deiseb er mwyn gofyn am gyfarfod
- Disgwylir i’r ysgol anfon llythyr at y rhieni erbyn diwedd mis Hydref ym mhob blwyddyn ysgol
- Disgwylir i gyrff llywodraethu barhau i gyfathrebu ac ymwneud â rhieni gydol y flwyddyn ysgol
- Disgwylir i’r ysgol roi gwybod am yr hawl i gyflwyno deiseb er mwyn gofyn am gyfarfod yn y Llawlyfr Ysgol ac yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer rhieni
