Ysgol Iach

Cartref > Ysgol > Ysgol Iach

Mae’r ysgol yn perthyn i gynlluniau Ysgolion Iach ac Ysgolion Gwyrdd. Rhydd hyn gyfleoedd i’r disgyblion sylweddoli pwysigrwydd cadw’n iach a ffitrwydd yn ogystal â materion yn ymwneud â chadwraeth, ail-gylchu ac arbed ynni.

Ysgol Iach

  • Mae’r ysgol yn hybu iechyd y plentyn ac iechyd holl gymuned yr ysgol
  • Drwy amrywiol weithgareddau, hybir ymwybyddiaeth o iechyd a lles
  • Gweini ffrwythau a bwyd iach
  • Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn gyfrifol am Siop Ffrwythau
  • Cymerir rhan mewn twrnamentiau ac ystod o chwaraeon
  • Cynhelir clybiau all gwricwlaidd mewn chwaraeon
  • Cynhelir teithiau cerdded yn rheolaidd
  • Hybu cysylltiadau â’r Gymuned
  • Gofalu am iechyd a lles y staff
  • Meithrin hunan werth y dysgwyr
  • Sicrhau diogelwch yn yr ysgol

Ni chaniateir i’r plant ddod a fferins a melysion i’r ysgol. Mae croeso iddynt ddod a ffrwythau i’w bwyta yn ystod amseroedd chwarae bore a phrynhawn. Yn ogystal, ni chaniateir dod a theganau i’r ysgol ond ar achlysuron arbennig.